Description: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Mawrth 2020

 

 

 

Diwygio Rheolau Sefydlog: Busnes y Cynulliad ac Amgylchiadau Eithriadol


Diben

1.    Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.

2.    Mae'r adroddiad yn argymell newidiadau i Reolau Sefydlog 6 ac 12. Mae'r cynigion ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd i’w gweld yn Atodiad A.

Y cefndir

3.    Ar ôl ystyried effaith bosibl yr achosion o feirws Covid-19 ar fusnes y Cynulliad, mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno ar y diwygiadau arfaethedig i’r Reolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A.

Cam i’w gymryd

 

4.        Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 18 Mawrth 2020 a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynigion a nodir yn Atodiad A.

 

 


Atodiad A

RHEOL SEFYDLOG 6 – Y Llywydd a’r Dirprwy

Llywydd Dros Dro dynodedig

6.24A Os bydd y Cynulliad o’r farn bod hynny’n briodol, caiff ethol Aelod yn Llywydd Dros Dro dynodedig i arfer swyddogaethau'r Llywydd.

6.24B Rhaid i'r Llywydd Dros Dro dynodedig ymgymryd â swyddogaethau'r Llywydd, ond dim ond ar ôl i'r Clerc hysbysu'r Cynulliad bod y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd yn methu â gweithredu.

6.24C Bydd Llywydd Dros Dro yn peidio ag arfer y swyddogaethau hyn pan fydd y Clerc yn hysbysu'r Cynulliad bod naill ai'r Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd yn gallu gweithredu.

Cadeirydd Dros Dro yn y Cyfarfodydd Llawn

6.24D Caiff y Cynulliad ethol Cadeirydd Dros Dro at ddibenion cadeirio cyfarfodydd llawn.

6.24E O ran swyddogaethau’r Llywydd, dim ond y swyddogaethau a ganlyn y caiff Cadeirydd Dros Dro a etholir o dan Reol Sefydlog 6.24D ymgymryd â hwy:

(i) swyddogaethau mewn perthynas â busnes yn y cyfarfod llawn o dan Reol Sefydlog 12;

(i) swyddogaethau mewn perthynas â busnes yn y cyfarfod llawn o dan Reol Sefydlog 13;

(ii) unrhyw swyddogaethau eraill mewn perthynas â busnes y cyfarfodydd llawn.

6.24F Dim ond ar ôl i'r Clerc hysbysu'r Cynulliad bod y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd yn methu â chadeirio cyfarfodydd llawn y caiff Cadeirydd Dros Dro ymgymryd â’r swyddogaethau a bennir o dan Reol Sefydlog 6.24E.

6.24G Bydd Cadeirydd Dros Dro yn peidio ag arfer y swyddogaethau hyn pan fydd y Clerc yn hysbysu'r Cynulliad bod naill ai'r Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd yn gallu cadeirio cyfarfodydd llawn.

6.24H Bydd Rheolau Sefydlog 6.24A – 6.24H yn peidio â chael effaith pan gaiff y Cynulliad ei ddiddymu.

 

RHEOL SEFYDLOG 12

Cyfarfodydd Llawn

12.1   Rhaid i gyfarfodydd llawn y Cynulliad gael eu cynnal yn gyhoeddus a rhaid caniatáu mynediad ar gyfer darlledu yn unol â'r trefniadau y bydd y Comisiwn yn cytuno arnynt.

12.1A Caiff y Llywydd wahardd y cyhoedd rhag bod yn bresennol mewn cyfarfodydd llawn pan fydd angen gwneud hynny er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Os digwydd hynny, rhaid parhau i ganiatáu mynediad ar gyfer darlledu.

12.1B Ni fydd y gofyniad yn Rheol Sefydlog 12.1A i barhau i ganiatáu mynediad ar gyfer darlledu yn gymwys pan fydd y Comisiwn yn penderfynu ei bod yn anymarferol darlledu'r trafodion.

12.1C Bydd Rheolau Sefydlog 12A.1 – 12.1C yn peidio â chael effaith pan gaiff y Cynulliad ei ddiddymu.